Saib a Symud – adnodd lles ysgol gyfan

Yn cael ei ddefnyddio gan filoedd o blant ac ysgolion, mae Saib a Symud yn creu cyfnodau byr o dawelwch a llonyddwch drwy ddefnyddio sesiynau ioga 3 munud o hyd. Wedi ei brofi gan brifysgolion a’i hystyried yn arfer orau gan arolygwyr, mae Saib a Symud yn cael cryn effaith ar les ein Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r adnodd aml-blatfform, gan gynnwys hyfforddiant, yn cynnig gwerth anhygoel am £1498 + TAW.

Llew’n Cysgu – adnodd biometrig digidol

Teclyn arloesol yw Llew’n Cysgu, dyfais sydd yn gwella lles plant drwy ddysgu iddynt sut i dawelu eu hunain yn gyflym pan maent yn teimlo’n ofidus, yn ofnus neu’n ddig.

Mae’r ddyfais cCBT (Computerised Cognitive Behavioural Therapy) yma yn defnyddio ap unigryw ar dabled, yn ogystal â chlustffonau a monitor cyfradd curiad y galon i’w wisgo ar arddwrn. Mae’r ap yn tywys y plentyn i deimlo’n dawelach. Wrth i gyfradd curiad y galon leihau mae cymeriad yr ap, sef Twm y llew, hefyd yn ymlacio ac yn cysgu; deallai’r plentyn sut i dawelu’n gyflymach er mwyn helpu Twm i gysgu’n gynt.

Cafodd Llew’n Cysgu treialon cenedlaethol gan brifysgol. Gwelwyd bod y ddyfais yn effeithiol wrth helpu plant i ddysgu sut i dawelu yn gyflym heb orfod gadael yr ystafell ddosbarth.

Gwelodd athrawon ei fod yn gwella hwyliau ac ymddygiad eu disgyblion, yn enwedig y rhai oedd yn ei chael yn anodd rheoli eu hemosiynau neu ymddygiad.

Cost cit biometrig, gan gynnwys tabled, monitor cyfradd curiad y galon, clustffonau, gwefrydd a bag, yw £1498 + TAW.

Ymgynghoriaeth

Gweithiai ymgynghorwyr Gwylan mewn ysgolion ledled y DU – drwy ymgynghori, diwrnodau HMS, ac ar-lein. Mae gan Gwylan nifer o ymgynghorwyr sydd yn deall yn llwyr sut mae lles ac ysgolion yn gweithio – cadwai hyn ffocws ein harbenigwyr ar beth yn union sydd yn gwneud gwahaniaeth.

Mae pob un o ymgynghoriaethau Gwylan wedi’u teilwra i gwrdd ag anghenion a amlinellwyd gan y cleient.

Dydy pob ysgol ddim yn siŵr pa gymorth sydd angen arnynt – mae hyn yn iawn. O brofiad, rydym yn gwybod mai drwy siarad am eich anghenion gyda chi y byddwn yn medru sicrhau y byddwch yn derbyn y cymorth cywir.

Cysylltwch gyda Gwylan drwy ffonio 01646 629090, e-bostio info@gwylan.co.uk neu lenwi’r ffurflen ymholiad ar ein tudalen cyswllt.

Amdanom Ni

Gwylan

Rydyn ni i gyd wedi derbyn y darn mwyaf datblygedig o offer yn y Bydysawd hysbys – yr ymennydd dynol – ond dim cyfarwyddiadau ar sut i gael y gorau ohono.

Pe byddem yn cael ein dysgu sut i reoli ein hymennydd, cyrff ac emosiynau yn fwy effeithiol, byddai cyfran dda ohonom â bywydau gwell – gyda llai o broblemau o ran iechyd meddwl a pherthnasoedd, a’r gallu i ddelio â straen yn well a gwella ein gallu i ganolbwyntio.

Treuliodd ein sylfaenydd, John, 20 mlynedd fel athro yn profi hyn yn uniongyrchol yn yr ystafell ddosbarth. Gwelodd yr hyn a wnaeth (ac na wnaeth) helpu i gynyddu lles ei ddisgyblion, a pha mor anodd oedd troi ymchwil academaidd ar les yn gamau pendant y gallai eu cymryd yn y dosbarth.

Felly, sefydlodd Gwylan, a daeth ag athrawon, seicolegwyr, arbenigwyr ioga a lles a dylunwyr cynnyrch ynghyd i wneud hyn. Rydym yn creu offer hawdd eu defnyddio sy’n dysgu plant ag oedolion sut i ddeall a rheoli eu hemosiynau, gweithio trwy deimladau negyddol, tawelu eu hunain a chynyddu eu lles.

John

Mae gan John Likeman ddegawdau o brofiad addysgu yn ymestyn o blant tair oed hyd at oedolion. Mae wedi gweithio fel ymarferydd llwyddiannus mewn ysgolion cynradd ac mae ei arweinyddiaeth a’i effeithiolrwydd wedi’u graddio fel rhai sy’n arwain y sector. Mae John wedi gweithio’n gyson mewn rôl ymgynghorol i Lywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi deunyddiau addysgol ac wedi ymddangos mewn rhaglenni dogfen i’r BBC o’r enw ‘Anelu at Ragoriaeth’.

Mae John wedi gweithio i CRIPSAT a TLC fel ymgynghorydd ac mae’n darlithio mewn addysg i Brifysgol Cymru. Yn ddiweddar, gwnaed John yn gymrawd ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2015 ac mae wedi cynhyrchu fideo hyfforddi a llawlyfr er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu eu gwerthoedd ledled y DU. Mae gan John  angerdd am adeiladu cymdeithasau cydlynol a gwneud y byd yn le gwell.

Phil

Mae Phil Okwedy yn storïwr perfformiad a chrëwr chwedlau sy’n adrodd straeon dwfn ac uniongyrchol, chwareus ac ingol, afieithus a dwys. Daw Phil â’i wybodaeth am sut i wella lles emosiynol trwy iaith ac adrodd straeon, i Gwylan.

Fel cyn-athro ysgol gynradd, fe arbenigodd mewn hwyluso ymholiad athronyddol i’r doethineb cyffredinol sydd i’w gael yn nhraddodiadau adrodd straeon llafar y byd. Yn ddiweddar, mewn partneriaeth â Dr Steve Killick, mae wedi datblygu Feelings are Funny Things – Rhaglen ar gyfer Archwilio Teimladau, Meddwl ac Actio gan ddefnyddio Straeon ac Adrodd Straeon.

Dewi

Mae Dewi yn ymgynghorydd yr iaith Gymraeg a chyfieithydd i Gwylan.

Ers 2012, mae wedi gweithio fel ymgynghorydd addysg llawrydd ac mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys cyfieithu, golygu a phrawfddarllen deunyddiau addysgol sydd i’w cyhoeddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae Dewi hefyd yn Llysgennad ac yn hyfforddwr wedi ei ddilysu i’r Cyngor Prydeinig ac yn fentor a gwiriwr allanol athrawon newydd gymhwyso i GwE.

Yn ddiweddar, mae wedi gweithio ar brosiectau i’r Cyngor Prydeinig ac OVEC yng Ngwlad Thai, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm, Llundain; Alphaplus, Manceinion a llawer o brosiectau yng Nghymru gan gynnwys i Lywodraeth Cymru (ac yn flaenorol ACCAC), Cyngor Celfyddydau Cymru, Techniquest a Tinopolis i enwi ychydig yn unig.

Mae swyddi blaenorol Dewi yn cynnwys gweithio fel Uwch Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Lerpwl, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Liverpool Hope, athro ymgynghorol gwyddoniaeth gynradd ar gyfer AALl Clwyd yn ogystal â phennaeth dwy ysgol yng Ngogledd Cymru.

Rhwng 2012 a 2019, roedd yn bartner yn Think Learn Challenge, cwmni addysg wedi’i leoli yn Ne Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n arwain cyrsiau hyfforddi ar gyfer uwch reolwyr ac athrawon mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.

Rhyd

Simon

Mae Simon Johns yn defnyddio ei arbenigedd mewn seicoleg i helpu Gwylan i ddatblygu ffyrdd gwell o wella iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Mae Simon a John yn ffurfio cnewyllyn adran Ymchwil a Datblygu Gwylan, gan dreulio llawer o’u hamser yn ymchwilio, creu prototeipiau a mireinio cynnyrch newydd.

Graddiodd Simon mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae wedi mynd ymlaen i weithio ym maes Addysg mewn rhanbarthau amrywiol yn y DU a De America. Cyn dychwelyd i Gymru, sef gwlad sy’n annwyl iawn iddo, astudiodd Simon i fod yn athro ioga ym Mhortiwgal.

Mae’n rhugl yn y Sbaeneg ac ar hyn o bryd mae’n cynnal ymchwil ar les ar gyfer GwylanUK a Phrifysgol Caerdydd er mwyn cael effeithiau cadarnhaol ar iechyd meddwl plant ac oedolion ifanc.

Marie

Daw Marie Faire â degawdau o arbenigedd dysgu a hyfforddi i Gwylan, gan helpu i wneud ein cynnyrch yn fwy effeithiol mewn ysgolion ac yn y cartref.

Pwrpas Gwylan yw dod o hyd i’r ffyrdd gorau o wella lles ac iechyd meddwl, ar sail ymchwil. Yna, creu ffyrdd gwirioneddol effeithiol o’u haddysgu i blant, pobl ifanc ac ysgolion. Mae arbenigedd Marie ar sut i drosglwyddo ac ymgorffori gwybodaeth a sgiliau yn rhan hanfodol o hyn.

Yn dilyn ei gradd gyntaf, mae Marie wedi ennill sawl cymhwyster ôl-raddedig gan gynnwys gradd Meistr (MA) mewn Dysgu Rheolaeth. Mae hi’n Hyfforddwr Gweithredol Proffesiynol Achrededig ac yn Oruchwyliwr Hyfforddi Achrededig.

Mae hi hefyd yn hyfforddwr arweiniol ar raglenni hyfforddi Hyfforddwyr Achrededig a rhaglenni Goruchwylio Hyfforddi Achrededig ac mae’n hyfforddwr ‘Meistr’ mewn Rhaglennu Niwroieithyddol (NLP) a gydnabyddir gan Y Gymdeithas Rhaglennu Niwroieithyddol (ANLP). Ar hyn o bryd mae Marie yn archwilio’r ymchwil diweddaraf ar yr ymennydd dynol, y cof, canfyddiad a dysgu.

Defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu, neu ffoniwch ni os yw hynny'n haws.

+44 (0)1646 629 090

    Cyfeiriad:

    Canolfan Arloesedd y Bont
    Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg
    Doc Penfro
    SA72 6UN

    Company Number:

    10062371

    Rhif TAW:

    239 4270 96

    Ebost:

    info@gwylan.co.uk